Prose and poetry competitions announced as part of BBC Radio Cymru's cultural festival - Gŵyl AmGen
BBC Wales has announced details of the two main competitions in this year’s cultural festival - Gŵyl AmGen - on BBC Radio Cymru and Cymru Fyw.

I’m delighted that people will have the opportunity to create and write poetry over the next month, and I hope we’ll have a winner deserving of Y Stôl Farddoniaeth early August.
The cultural celebration, in partnership with the National Eisteddfod, is a long weekend of programmes and content across BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 and BBC Cymru Fyw between 30 July and 2 August. Radio Cymru presenters will guide the audience to all corners of the virtual Maes (Eisteddfod field) that will include theatrical experiences, concerts and ceremonies as well as documentaries and music.
As part of the variety of content on offer during the celebration of Welsh language and culture, there will be two main competitions - Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth (Poetry Competition) and Cystadleuaeth y Stôl Ryddiaith (Prose Competition) - and today, BBC Wales has announced the details
- • The Stôl Farddoniaeth competition - a piece of free verse or strict meter poetry between 24 and 30 lines on the theme of YMLAEN (Forward) with Archdruid and Chaired Poet, Myrddin ap Dafydd and Mererid Hopwood - a winner of the Eisteddfod’s Chair, Crown and Literary Medal, judging the entries
- The Stôl Ryddiaith competition - up to 500 words of prose on the theme of GOBAITH (Hope) with two who have had great success at recent Eisteddfod competitions, Manon Steffan Ros and Guto Dafydd, as judges.
Archdruid Myrddin ap Dafydd says: “It’s a pleasure to be part of Radio Cymru, Cymru Fyw and the National Eisteddfod’s Gŵyl AmGen project. I’m really looking forward to receiving and reading the poems, and working with Mererid Hopwood to choose the winner. I’m delighted that people will have the opportunity to create and write poetry over the next month, and I hope we’ll have a winner deserving of Y Stôl Farddoniaeth early August.”
Manon Steffan Ros, author of Llyfr Glas Nebo - winner of Y Fedal Ryddiaith (Prose Medal) at the National Eisteddfod in Cardiff in 2018, adds: “I was delighted to receive the invitation to become one of the judges for y Stôl Ryddiaith. We’ll be looking for concise and creative writers. Someone who can capture the imagination in few words, and someone, I hope, who’ll be wholly deserving of the stool at the end. I’m looking forward to plenty of reading, and I’m sure Radio Cymru’s listeners and Eisteddfod-goers won’t let us judges down!”
Details of how to enter are published on the Eisteddfod website, www.eisteddfod.cymru and the closing date is 12.30pm on Monday 6 July 2020.
SG
The Stôl Farddoniaeth and Rhyddiaith Competitions
Competitors should send their work as a Word document or PDF via email to Lois Jones, using the email address amgen@eisteddfod.org.uk noting clearly the pseudonym only on the work itself. Note the full name, phone number and email of the competitor in the body of the email. All the information will be kept confidential. The closing date for both competitions is Monday 6 July 2020 at 12.30pm
Other ceremonies at Gŵyl AmGen
There will be an opportunity to shine a light on those learning the Welsh language at Gŵyl AmGen, as BBC Wales and the Eisteddfod collaborate with the National Centre for Learning Welsh, Duolingo and Say Something in Welsh.
The BBC is also collaborating with Literature Wales and their partners to announce the winners of the 2020 Wales Book of the Year Awards.
And the Welsh Album of the Year ceremony will be broadcast as part of the festival.
Cyhoeddi dwy brif gystadleuaeth Gŵyl AmGen Radio Cymru
Heddiw (Dydd Iau 4 Mehefin) mae BBC Cymru yn cyhoeddi testunau a manylion y ddwy brif gystadleuaeth yng Ngŵyl AmGen BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw.
Mae’r ŵyl, sy’n bartneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, yn benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst. Bydd cyflwynwyr Radio Cymru yn tywys y gynulleidfa i bob cornel o’r Maes rhithiol fydd yn cynnwys dramâu, cyngherddau a seremonïau yn ogystal â rhaglenni dogfen a cherddoriaeth.
Fel rhan o’r arlwy amrywiol bydd dwy gystadleuaeth - Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth a Chystadleuaeth y Stôl Ryddiaith, a heddiw, mae BBC Cymru yn cyhoeddi’r manylion:
- Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth - darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun YMLAEN, gyda’r Archdderwydd a’r Prifardd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood - bardd o fri yn ogystal â Phriflenor a Phrifardd yn feirniaid
- Cystadleuaeth y Stôl Ryddiaith - darn o ryddiaith hyd at 500 gair ar y testun GOBAITH, gyda dau sydd wedi cael llwyddiant ysgubol mewn cystadlaethau Eisteddfodol diweddar- Manon Steffan Ros a Guto Dafydd - yn beirniadu
Meddai yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd: “Mae’n bleser cael bod yn rhan o brosiect Gŵyl AmGen Radio Cymru, Cymru Fyw a’r Eisteddfod Genedlaethol. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at dderbyn a darllen y cerddi, gan weithio gyda Mererid Hopwood i ddewis enillydd. Rydw i’n hynod falch bod pobl am gael cyfle i greu a barddoni dros y mis nesaf, a gobeithio y gwelwn ni enillydd haeddiannol yn derbyn y Stôl Farddoniaeth ddechrau Awst.”
Ychwanegodd Manon Steffan Ros, awdur y gyfrol fuddugol - Llyfr Glas Nebo - yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018: “Ro’n i wrth fy modd yn derbyn y gwahoddiad i fod yn un o’r beirniaid ar gyfer y Stôl Ryddiaith. Byddwn yn chwilio am lenorion cryno a chreadigol. Rhai all fachu’r dychymyg o fewn ychydig eiriau, ac un a fydd, gobeithio, yn llawn haeddu derbyn Y Stôl ar y diwedd. Rwy’n edrych ymlaen at dddigonedd o ddarllen, ac yn sicr na fydd gwrandawyr Radio Cymru nac Eisteddfodwyr yn ein siomi ni fel beirniaid!”
Mae’r manylion am sut i gystadlu i’w gweld ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru, a’r dyddiad cau yw 12.30pm dydd Llun 6 Gorffennaf 2020.
SG
Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth a Rhyddiaith
Dylai’r cystadleuwyr anfon eu gwaith fel dogfen Word neu PDF dros ebost at Lois Jones, gan ddefnyddio’r cyfeiriad ebost amgen@eisteddfod.org.uk a nodi’n glir y ffugenw yn unig ar y gwaith ei hun. Bydd angen cynnwys enw llawn, rhif ffôn ac ebost y cystadleuydd yng nghorff yr ebost. Bydd yr holl wybodaeth yn gyfrinachol. Dyddiad cau y ddwy gystadleuaeth yw dydd Llun 6 Gorffennaf 2020 am 12.30pm.
Seremoniau eraill Gŵyl AmGen
Bydd cyfle i fawrygu Dysgwr yr Ŵyl AmGen, wrth i BBC Cymru a’r Eisteddfod gydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Duolingo a Say Something in Welsh.
Mae’r BBC hefyd yn cydweithio â Llenyddiaeth Cymru a’u partneriaid er mwyn cyhoeddi enillwyr gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2020 fel rhan o’r ŵyl.
Ac fe fydd seremoni Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei darlledu fel rhan o hwyl yr ŵyl.