New names to join BBC Radio Cymru

Today, BBC Radio Cymru announces new names to the weekly line-up. From 20 November, Trystan Ellis-Morris and Emma Walford will host a live show every Friday between 9am and 11am.

Published: 30 October 2020
  • Trystan and Emma - S4C’s Priodas Pum Mil presenters - host a brand-new show every Friday morning
  • Hanna Hopwood Griffiths presents a new Tuesday evening programme
  • Ffion Emyr takes to the airwaves on a Friday and Saturday night

Today, BBC Radio Cymru announces new names to the weekly line-up. From 20 November, Trystan Ellis-Morris and Emma Walford will host a live show every Friday between 9am and 11am. The pair, who recently won a BAFTA Cymru award for their work on Prosiect Pum Mil on S4C, will start the weekend early Friday mornings with a show full of fun, competitions and great chat - along with the best music.

Trystan said: “We can’t wait to spend Fridays with Radio Cymru listeners and start the weekend with plenty of tunes, chat and lots of laughs. We’re really looking forward to it.”

On Friday nights Ffion Emyr - a familiar voice to listeners on a Saturday night - will take to the airwaves creating ‘a night out while staying in’ vibe with good company and lively music between 10pm and 12am.

Between 6pm and 6.30pm, from Monday to Thursday programmes will bridge the afternoon and evening shows, including a brand-new programme on a Tuesday Gwneud Bywyd yn Haws (Making Life Easier). Hanna Hopwood Griffiths will host a discussion programme with the aim of doing exactly what the title suggests, to make life that little bit easier. Hanna and her guests will cover all kinds of topics – from debt to health, to housekeeping – offering help and advice along the way.

The rest of the week at 6pm will see a weekly documentary, a new series of Benbaladr, looking at international matters through the eyes of Welsh people living and working across the world and a new quiz show in January Penben. The political programme Hawl i Holi will also return for a live broadcast each month from November. 

The music programmes - Recordiau Rhys Mwyn, Hwyrnos Georgia Ruth, Lisa Gwilym yn cyflwyno a Byd Huw Stephens - will begin at 6.30pm. And Stiwdio, Dei Tomos, Cofio, Beti a’i Phobl will move to 9pm. Geraint Lloyd will remain at the helm between 10pm-12 Monday to Thursday.

Hanna says: “I’m delighted to be given the opportunity to research and talk about all kinds of things that will, hopefully, make life easier for listeners. The opportunities for us to come together and start a conversation are so important. At a time where we can’t see each other face to face, developing our listening skills is more important than ever.”

And in a further exciting development, Aled Hughes will be discussing various topics and getting to know some of Wales’ most interesting people in a new podcast coming early 2021.

BBC RADIO CYMRU YN CYHOEDDI ENWAU NEWYDD I YMUNO Â’R ORSAF

  • Trystan ac Emma – cyflwynwyr Priodas Pum Mil – i gyflwyno rhaglen newydd sbon bob bore Gwener
  • Hanna Hopwood Griffiths â rhaglen newydd nos Fawrth
  • Ffion Emyr fydd yn diddanu nos Wener a Sadwrn

Heddiw mae BBC Radio Cymru yn cyhoeddi newidiadau i’r amserlen gan gyflwyno enwau newydd i’r arlwy wythnosol. O 20 Tachwedd, bydd Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford yn cyflwyno rhaglen fyw bob bore dydd Gwener rhwng 9 y bore ag 11. Bydd y ddau –  enillodd wobr BAFTA Cymru nos Sul am eu gwaith yn cyflwyno Prosiect Pum Mil ar S4C - yn cychwyn y penwythnos yn gynnar fore Gwener gyda rhaglen sy’n llawn hwyl, cystadlaethau i wrandawyr a sgyrsiau difyr - ynghyd â’r gerddoriaeth orau.  

Meddai Trystan: “Da ni methu aros at dreulio’n dyddia Gwener efo gwrandawyr Radio Cymru a chychwyn y penwythnos efo llwyth o tiwns, digon o siarad a lot o laffs, ‘da ni wir yn edrych ‘mlaen.”

Nos Wener, Ffion Emyr- sy’n llais cyfarwydd i wrandawyr nos Sadwrn – fydd yn cymryd yr awenau a chreu naws ‘noson allan tra’n aros i mewn’ gyda chwmni da a cherddoriaeth hwyliog rhwng 10 a 12 y nos.

Rhwng 6 a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Iau, bydd rhaglenni’n pontio rhwng rhaglenni’r prynhawn a’r nos, gan gynnwys rhaglen newydd sbon ar nos Fawrth Gwneud Bywyd yn Haws. Hanna Hopwood Griffiths fydd yn cyflwyno rhaglen drafod gyda’r nod o wneud yr hyn mae’r teitl yn ei awgrymu, sef gwneud bywyd ychydig bach yn haws. Bydd Hanna a’i gwestai yn trafod pob math o bynciau – o ddyledion, i iechyd, i faterion yn ymwneud â’r cartref – gan gynnig ychydig o gyngor a gair i gall ar hyd y ffordd.

Weddill yr wythnos am 6 yr hwyr ceir rhaglen ddogfen wythnosol, cyfres newydd o Benbaladr fydd yn trin materion rhyngwladol trwy lygaid y Cymry Cymraeg sy’n byw ac yn gweithio ar draws y byd a chyfres gwis newydd Penben ym mis Ionawr, ac ail-ddarllediad o’r rhaglen am  ardaloedd gwledig a chynhyrchu bwyd, Troi’r Tir.  Bydd y rhaglen wleidyddol, Hawl i Holi hefyd yn dychwelyd am ddarllediad byw bob mis, o fis Tachwedd ymlaen.

Bydd y rhaglenni cerddoriaeth arbennigol – Recordiau Rhys Mwyn, Hwyrnos Georgia Ruth, Lisa Gwilym yn cyflwyno a Byd Huw Stephens - yn cychwyn am 6.30pm. A Stiwdio, Dei Tomos, Cofio, Beti a’i Phobl yn symud i 9pm.  Bydd Geraint Lloyd yn parhau wrth y llyw rhwng 10 a 12 yr hwyr nos Lun i nos Iau.

Meddai Hanna: "Mae'n anodd cyfleu pa mor hapus ydw i o gael y cyfle hwn i fynd ati i ymchwilio a sgwrsio am bob math o bethau a fydd, gobeithio, yn gwneud bywyd yn haws - o'r pethau bychain i'r pethau mawr. Mae cael cyfleoedd i ni ddod at ein gilydd ac agor sgwrs mor bwysig. Mewn cyfnod ble nad ydyn yn gallu gweld ein gilydd, mae datblygu ein sgiliau gwrando yn bwysicach nag erioed.”

Ac mewn datblygiad cyffrous arall, fe fydd Aled Hughes yn trafod materion a phynciau amrywiol ac yn dod i adnabod rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru yn well mewn podlediad newydd fydd i’w glywed yn gynnar yn 2021.